NEU Y GRONFA GYMMYSG. Compiled by Ichn Morgan. "Pob sorod i'r god ag ef."-Diareb. SABERYSTWYTH : CYHOEDDWYD GAN JOHN MORGAN, SWYDDFA YR OBSERVER," 1, NORTH PARADE. 1882. RHAGYMADRODD. 0: YR oedd gynt, meddant hwy, hen wraig o'r enw Sioned yn arfer myned oddi amgylch y wlad i gardota; a' llestr oedd ganddi i dderbyn cardodau yr haelionus ydoedd ystên, cynnog, neu biser. Pa elusen bynnag a roddid iddi, ai gwlyb ai sych, ai gwerthfawr ai gwael, teflid y cwbl yn ddiwahaniaeth ac yn bendramwnwgl i'r ystên fawr a gludai wrth ei hystlys: o ba herwydd daeth Ystên Sioned i fod yn gyfystyr â chymmysgfa neu gybolfa o bethan anghydryw; a gelwir y cyffelyb dryblith mewn rhai parthau dan enw Piser Alis. Crybwyllir cymmaint a hynna er mwyn dangos ystyr ac urddas a phriodoldeb enw ein llyfr, yn gystal ag ansawdd ei gynnwysiad. Nid ydoedd Sioned yn gwrthod dim, nac yn beio ar ddim a roddid yn ei hystên; ond derbyniai'r cwbl gyda gwên foddhaol, gan fod yn ddiolchgar am dano. Cofnodir hyn o ffaith er mwyn cyn. northwyo tipyn ar yr "hynaws ddarllenydd" i ymlwybro at ei ddyledswydd yn ei berthynas â'r Ystenaid a gynnygir yn awr i'w ystyriaeth. Dydd Gwyl Gewydd, 1882. |